Panorama

Friday 28 January 2011

Coedwigoedd Eryri

Wrth gario 'mlaen i dynnu lluniau llynnoedd Eryri, thema wythnos yma oedd Coedwigoedd.  Coedwig Beddgelert oedd gynta', yn uchel yng nghoedwig Beddgelert mae Llyn Llywelyn - llyn poblogaidd, ac sydd werth ymweliad ar b'nawn Sul.  Roedd darnau o'r goedwig tu ol i'r llyn yn goleuo, ac roedd cymylau'r bore'n goleuo'n binc ac oren.  Gyda barrug yn dew ar y cerrig yn y blaendir - roedd cyfle am lun.

Llyn Llywelyn

 Nesa' Coedwig Gwydir amdani!  Mae llond coedwig Gwydir  o lynnoedd ac mae'r goedwig yn amgylchynnu pentref Betws y Coed.  Er i mi dynnu lluniau Llyn Bodgynydd a Ty'n Mynydd llynedd, roedd pum llyn arall i'w dynnu - Llyn Bychan; Llyn Goddionduon; Llyn Sarnau; Llyn Pencraig a Llyn Elsi.

Llyn Bychan oedd gyntaf - ac o lyn bychan di-sylw, roedd patrymau'r rhew tennau ar wyneb y llyn yn cynnig lluniau anarferol.  Mae cael amrywiaeth eang o luniau'r llynnoedd yn profi'n sialens, ac mae ceisio meddwl yn wreiddiol am bob llyn yn mynd yn anoddach bob tro, ond roedd hwn yn gyfle annisgwyl.


Caeau Bach y Rhew - Llyn Bychan 1


Caeau Bach y Rhew - Llyn Bychan 2


Llyn Goddionduon oedd nesa'.  Llyn ychydig yn fwy, ond roedd y cymylau'n dechrau llenwi'r awyr - ond roedd cyfle am un llun agos, ac un tirlun mwy traddodiadol.


Hesg Siapaneaidd Llyn Goddionduon


Mae'r tywydd ar droi - Llyn Goddionduon


Nesa - ymweliad a Llyn Sarnau, a Llyn Pencaig.  Er fod ychydig mwy o ddwr yn Llyn Sarnau y tro yma nag oedd yno y tro diwethaf, doedd yna fawr o ddwr, felly ymlaen i Lyn Pencraig.  Dyma heb os nac oni bai lyn mwyaf siomedig Eryri!  Does fawr ddim dwr yno erbyn hyn, dim ond cors.  Mae'r ddau lun yn gorwedd yng nghanol ardal o gloddio am blwm a thun, ac mae'r creigiau o amgylch y llynnoedd yn frith o fwyngloddiau, ac mae'n debyg fod symudiadau yn y creigiau yn y blynyddoedd diweddar yn golygu fod tyllau man wedi agor yng ngwely'r llynnoedd, ac fod y dwr wedi diflannu i lawr i'r graig!  Fodd bynnag rhaid oedd ceisio tynnu lluniau.

Siom Llyn Pencraig!

Llyn Elsi Nesa, a doedd dim golwg codi ar y cymylau - ond cyfle am siot eithaf dramatig.  Mae gen i nith fach o'r enw Elsi, a rhaid oedd tynnu llun y llyn oedd wedi ei enwi er ei hol hi!

Llyn Elsi

1 comment:

  1. Clywed am y ddau lyfr o luniau o wlad fy mebyd ar Wedi 7, ac wrth fy modd yn darganfod gwefan Gareth Roberts a chithe. Teimlad mor braf gweld tirlun Cymru am mod i'n byw yn Alpau Ffrainc ers 31 mlynedd. DIOLCH YN FAWR AM Y TRIP NOL ! Pob lwc i chi'ch dau hefo'r gwahanol prosiectau. marianb_g@yahoo.fr

    ReplyDelete