Llwyddwyd i gyrraedd Llyn Caerwych mewn dim o dro, gan grwydro dros y gors i Lyn Eiddew Bach, ac yna drws nesa' i Lyn Eiddew Mawr. Tra roedd y tywydd yn dal yn dda, a'r golau'n ddigon isel yn yr awyr, dringais i fyny bron i gopa Moel Ysgyfarnog i Lyn y Dywarchen (mae tri llyn o'r enw yma yn Eryri). Pwll bychan bas iawn ydi hwn, a bron ei fod yn debycech i gors wlyb iawn na llyn!
Ychydig yn uwch i fyny tua Bwlch Gwilim mae dau lyn bychan arall - Llyn Du a Llyn Corn Ystwc. Mae hen lwybr trol anhygoel yn arwain i fyny i Lyn Du a naddwyd i wyneb y graig yn oes Fictoria i gloddio am Fanganese yn uchel yn y Rhiniogydd - mae'r llwybr yma'n anhygoel, ac mae'r golygfeydd yn ymestyn dros Fae Ceredigion am Fynydd Rhiw ym Mhenrhyn Llyn, a draw tua'r Wyddfa a'i chriw.
Mae'r tirlun ger Llyn Corn Ystwc ei hun yn werth ei weld. Er mai bychan ydi'r llyn ei hun, mae'r tirlun rhewlifol yn anhygoel. Rhywsut ne'i gilydd tydi llystyfiant heb gael cyfle i sefydlu ei hun yno, ac mae'r cwbwl yn graig noeth, grafiedig gyda chreigiau unig yn gorwedd yno ers ddiwedd yr oes ia ola'. Bron y gallai rhywyn dyngu for y rhewlif ond wedi cilio o'r ardal yn y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf!
Dyna gofnodi chwe llyn arall yn Eryri ar gyfer y prosiect Llynnoedd Eryri - mae dipyn mwy i'w gwneud, fodd bynnag!
Hen gorlan trochi defaid ar lan Llyn Caerwych
Llyn Carewych
Llyn Eiddew Bach
Llyn Eiddew Mawr, ac aber y Ddwyryd
Llyn y Dywarchen a Moel Ysgyfarnog
Llyn Du
(Sylwer fod y llynnoedd yma'n dal i ddangos haen drwchus o rew)
Llyn Corn Ystwc
No comments:
Post a Comment