Panorama

Thursday 6 January 2011

Diwrnod Niwlog - A Foggy Day

Dydd Mawrth roedd y mynyddoedd yn tynnu - wedi wythnos a hanner o hamddena rhaid oedd chwythu'r hen we pry cop y Nadolig, gan fentro allan i'r Mynyddoedd.  Y bwriad oedd ymweld a phump neu chwech o lynnoedd yn uchel yng Ngogledd y Rhiniogydd - ardal ddieithr iawn i mi.  Mae mynyddoedd y Rhiniogydd yn ymestyn am ardal eang yn Sir Feirionnydd o Dalsarnau i Drawsfynydd bron yr holl ffordd i lawr i Ddolgellau - gwylltir mwyaf Eryri.

Mae cymoedd Nantcol a Cwm Bychan yn leoliadau gwych i fynd i'r afael a'r Rhiniogydd o'r Gorllewin, gan fod ffyrdd bychain yn arwain yn ddwfn i mewn i'r mynyddoedd - a pharciais y fan ger Llyn Cwm Bychan heb fod ymhell o Harlech.  Y bwriad oedd dringo'r bwlch tua Trawsfynydd, gan fwrw golwg dros nifer o'r llynnoedd i'r gogledd o'r bwlch, gan gylchu'n ol i Gwm Bychan yn y pen draw.

Wedi dringo'r bwlch, a chroesi dros y grib i lawr am Lyn Eiddew Mawr, daeth diwedd ar unrhyw obeithion am luniau gwerth chweil gyda chlustog dew o niwl yn disgyn dros y llyn - doedd dim amdani ond crwydro i'r gogledd, gan geisio canfod Llyn Eiddew Bach, gan obeithio fod y tywydd am wella.  Doedd dim gwella am fod, a chan geisio arweiniad y map, ddilyn yr ychydig nodweddion yn y tir i gyfeiriad Llyn y Fedw, ac yna'n ol i lawr i Gwm Bychan.  Wedi peth amser, daeth dyfroedd y llyn i'r golwg drwy'r niwl, gan fy sichrhau fod fy nghoesau blinedig heb fod ymhell o'r fan erbyn hyn, ond wedi astudio'r map am blwc, sylweddolais fod hwn yn lyn hollol wahanol i Lyn y Fedw - roeddwn yn sefyll ar lannau Llyn Caerwych, rai milltiroedd o'r lle 'ron i'n meddwl yr oeddwn i.  Roedd y fan wedi ei pharcio filltiroedd i ffwrdd, ac roedd y golau'n dechrau pylu.  Dechreuodd panig gymeryd drosodd, roeddwn yn meddwl am blwc y byddwn yn gorfod ffonio am dacsi mawr melyn Prins William!  Doedd dim amdani ond pydru 'nol, gan ddilyn waliau mynydd a oedd wedi eu marcio ar y map.  Ymhen hir a hwyr daeth Llyn Eiddew Mawr yn ol i'r golwg, ac roedd hi'n bosib' dilyn fy llwybr yn ol dros y bwlch i Gwm Bychan.  Roedd gewynnau'r coesau'n sgrechian erbyn hyn, a holl dwrci'r 'Dolig yn bwysau.  Gyda dim ond egin o olau ar ol ar ben y bwlch uwchben Cwm Bychan, daeth adlewyrchiad o'r llyn yng ngolau hwyd y dydd i'r golwg, a chyda gofal roedd y daith i lawr i lannau'r llyn yn bosib.  Doedd cynhesrwydd y fan erioed wedi bod mor groesawus, er fod cerdyn cof y camera mor wag!


Llyn Eidddew Mawr


Llyn Eiddew Mawr


No comments:

Post a Comment