Panorama

Thursday, 6 January 2011

Diwrnod Niwlog - A Foggy Day

Dydd Mawrth roedd y mynyddoedd yn tynnu - wedi wythnos a hanner o hamddena rhaid oedd chwythu'r hen we pry cop y Nadolig, gan fentro allan i'r Mynyddoedd.  Y bwriad oedd ymweld a phump neu chwech o lynnoedd yn uchel yng Ngogledd y Rhiniogydd - ardal ddieithr iawn i mi.  Mae mynyddoedd y Rhiniogydd yn ymestyn am ardal eang yn Sir Feirionnydd o Dalsarnau i Drawsfynydd bron yr holl ffordd i lawr i Ddolgellau - gwylltir mwyaf Eryri.

Mae cymoedd Nantcol a Cwm Bychan yn leoliadau gwych i fynd i'r afael a'r Rhiniogydd o'r Gorllewin, gan fod ffyrdd bychain yn arwain yn ddwfn i mewn i'r mynyddoedd - a pharciais y fan ger Llyn Cwm Bychan heb fod ymhell o Harlech.  Y bwriad oedd dringo'r bwlch tua Trawsfynydd, gan fwrw golwg dros nifer o'r llynnoedd i'r gogledd o'r bwlch, gan gylchu'n ol i Gwm Bychan yn y pen draw.

Wedi dringo'r bwlch, a chroesi dros y grib i lawr am Lyn Eiddew Mawr, daeth diwedd ar unrhyw obeithion am luniau gwerth chweil gyda chlustog dew o niwl yn disgyn dros y llyn - doedd dim amdani ond crwydro i'r gogledd, gan geisio canfod Llyn Eiddew Bach, gan obeithio fod y tywydd am wella.  Doedd dim gwella am fod, a chan geisio arweiniad y map, ddilyn yr ychydig nodweddion yn y tir i gyfeiriad Llyn y Fedw, ac yna'n ol i lawr i Gwm Bychan.  Wedi peth amser, daeth dyfroedd y llyn i'r golwg drwy'r niwl, gan fy sichrhau fod fy nghoesau blinedig heb fod ymhell o'r fan erbyn hyn, ond wedi astudio'r map am blwc, sylweddolais fod hwn yn lyn hollol wahanol i Lyn y Fedw - roeddwn yn sefyll ar lannau Llyn Caerwych, rai milltiroedd o'r lle 'ron i'n meddwl yr oeddwn i.  Roedd y fan wedi ei pharcio filltiroedd i ffwrdd, ac roedd y golau'n dechrau pylu.  Dechreuodd panig gymeryd drosodd, roeddwn yn meddwl am blwc y byddwn yn gorfod ffonio am dacsi mawr melyn Prins William!  Doedd dim amdani ond pydru 'nol, gan ddilyn waliau mynydd a oedd wedi eu marcio ar y map.  Ymhen hir a hwyr daeth Llyn Eiddew Mawr yn ol i'r golwg, ac roedd hi'n bosib' dilyn fy llwybr yn ol dros y bwlch i Gwm Bychan.  Roedd gewynnau'r coesau'n sgrechian erbyn hyn, a holl dwrci'r 'Dolig yn bwysau.  Gyda dim ond egin o olau ar ol ar ben y bwlch uwchben Cwm Bychan, daeth adlewyrchiad o'r llyn yng ngolau hwyd y dydd i'r golwg, a chyda gofal roedd y daith i lawr i lannau'r llyn yn bosib.  Doedd cynhesrwydd y fan erioed wedi bod mor groesawus, er fod cerdyn cof y camera mor wag!


Llyn Eidddew Mawr


Llyn Eiddew Mawr


Thursday, 16 December 2010

Diwrnod yn Manceinion - A day out in Manchester

Ar ganol prysurdeb y 'dolig, braf oedd cael diwrnod o waith yn Manceinion, ddoe yn tynnu lluniau i gwmni RPG o'r ddinas sydd am adeiladu gwefan newydd, ac roedd y briff yn syml - lluniau abstract pensaerniol yn cyfleu awyrgylch corfforaethol, gan gyfleuu elfennau o'r ddinas drwy lygaid gwahanol - dyma rai o'r lluniau.

Yesterday, I was wheeled out from the husle and bustle of the Christmas rush to shoot a selection of architectural abstracts for Manchester based company RPG,  the new architecture in the city was fascinating, and a nice diversion from the manic gallery in Caernarfon - here's a selection.







Tuesday, 7 December 2010

Croeso - Welcome

Croeso i flog cyntaf y wefan newydd.  Dyma gam i'r tyllwch! Tydw i erioed wedi blogio o'r blaen, ac o edrych yn ol, roeddwn yn eitha' dilornus 'r syniad am gyfnod, ond dyma fi! Mae'r blog, gobeithio, yn mynd i fod yn rhan bwysig o'r wefan newydd.  Bwriad y blog ydi gweithredu ar fwy nac un lefel - bydd yn gweithredu fel newyddlen, gan hysbysu os y bydd gwasanaethau newydd yn cael eu cynnig, neu gyhoeddiadau ac ati gan Panorama, ond yn bennaf bydd yn leoliad y bydd cleiantau yn gweld rhagflas o'u lluniau yn fuan wedi digwyddiad.  Yn fuan wedi priodas, er enghraifft, bydd cyfle i weld casgliad bychan o'r lluniau gorau (40-50 llun) o fewn deuddydd i'r briodas - tamaid i aros pryd!  Bydd y blog yn cynnwys mwy o luniau nac o eiriau, gan fod yn well gennyf gyfleu fy hun drwy'r lens na drwy'r allweddell!

Diolch o waelod calon i Simon Lowe o Bilberry Design am ei waith gwych yn adeiladu'r wefan - mae ei wybodaeth wedi bod yn amrhsiadwy - ac am ei amynedd yn egluro popeth i mi - rhywyn sydd yn 'class clai' pam mai'n dod i'r petha 'ma.  Diolch hefyd i Justin Davies o Dylunio Gringo am ddylunio steil y wefan, gan anwybyddu'n llwyr bob dim wnes i ofyn amdano (ar wahan i'r logo - mi ges i fy ffordd fy hun yna), ond mae profiad Justin yn y maes yn llawer ehangach na'm mhrofiad i, ac mae'r wefan yn edrych yn wych.  Mae diolch hefyd yn mynd i griw 'Everybody Smile' sydd wedi gweithredu'r peirianwaith tu ol i'r wefan, ac am ateb yr holl e-byst yn glir a maith i go' heb glem! Diolch Hefyd i Rhys 'Ty'r Ysgol' Owen am ei waith ar wefan gyntaf Panorama a lwyddodd i fod yn oriel ar-lein gyntaf y busnes am bum mlynedd.

Welcome to the first blog on te new website.  It's a step into the dark! I've never blogged before, and it's not long ago that I sneered at the idea, and here I am! The blog will, hopefully become a vital cog in the new website, operating on several levels.  Firstly as a newsletter, updating on new services, publiations etc., but mostly as a post for previews for images shot in recent events for clients to have a taste of things to come.  Following a wedding, for example, some 40-50 images will be posted within a day or two before the main body of work later on.  The blog will be mostly image-based, as I prefer to express myself through the lens as opposed to through the keyboard!

My thanks are endless to Simon Lowe of Bilberry Design for his fabulous work in creating this website - his knowledge is limitless - his patience has been endless, considering his client in this instance is in the 'Playdough' class in the school of techy things!  Many thanks also to Jusin Davies of Gringo Design who designed the look of the website - although he ignored all my specifications (apart from the logo - I got my own way on that one) he defitenely did know better, and the website looks fab!  Thanks also goes to the team at Everybody Smile for making the mechanisms possible, and for being patient in their e-mails.  Last, but not least, thanks goes to Rhys Owen for building and hosting Panorama's first website, which served the business well for 5 years.

Diolch hefyd i Meleri am ei barn a'i chyngor a hi - nid fi sydd yn cael y fraint o dynnu'r llun cyntaf i ymddangos ar y blog hwn!  Many thanks to Meleri, my wife for her supoport and advice, and its Meleri who gets to take the first shot on this blog.