Dydd Mawrth, daeth hindda wedi'r storm, a chyfle i dreulio diwrnod yn y mynyddoedd yn chwilio am lynnoedd anghofedig. Y tro yma ardal Pont yr Afon Gam, Cwm Cynfal, Cwm Teigl a Chwm Prysor ar y Migneint, gan ymeld ac 8 llyn yn ystod y dydd (gan gychwyn yn Hafod y Llyn ger Maentwrog).
Roedd yr awyr braidd yn rhy las i mi, ond mai'n braf cael amrywiaeth o dirluniau weithioau. Dyma rai o'r lluniau.
Hafod y Llyn, Maentwrog
Coed wrth Hafod y Llyn, Maentwrog
Llyn Dubach y Bont, Pont yr Afon Gam
Llyn Morwynion - fy hoff lun i o'r dydd!
Llyn Morwynion
Llyn y Drum
Llyn y Drum
Ffrwd yn arwain oLynnau'r Gamallt
Llyn Bryn Du, Y Clochdy yn y cefndir
Llyn y Frithgraig yn edrych i'r gogledd am yr Wyddfa, Glyderau, Carneddau a Phen Llithrig y Wrach
Hiraethlyn
Ffrwd yn arwain i Hiraethlyn
Hiraethlyn