Llongyfarchiadau mawr i Lisa a Guto ar eu priodas yn Nant Gwrtheyrn ddydd Sadwrn. Ac o'r diwedd daeth yr haul i oleuo'r prynhawn (rhaid oedd cael cadarnad mai dyna be' oedd o). Roedd cael cyfle i dynnu lluniau i lawr ar y traeth yn wych, gyda golau hwyr, cynnes yn taro lliw bendigedig dros Borth y Nant.
Fel arfer, detholiad o luniau sydd yma - bydd y set gyflawn i'w gweld maes o law ar y brif wefan.
Pob hwyl i'r ddau ohonoch ar eich mis mel.
Hawlfraint Geraint Thomas, Panorama 2012 Cedwir Pob Hawl
No comments:
Post a Comment