Llongyfarchiadau mawr i Elin ac Owain a briododd yn y gwres a'r heulwen Ddydd Sadwrn yng Nghapel Glanrhyd ac yna ym Mron Eifion, Cricieth. Roedd hi hyd yn oed yn rhy boeth i ddawnsio tu mewn - ac fe gafwyd y ddawns gynta' tu allan - cyfle gwych am luniau. A son am leoliadau gwych - braf oedd cael ymweld a Llyn Nantlle am luniau ar y ffordd i Gricieth - lleoliad gorau'r bydysawd (fel hogyn o Nantlle - mi fyswn i'n dweud hynny!)
Pob lwc i Elin ac Owain - a joiwch y lluniau.
© Geraint Thomas 2014 - Cedwir Pob Hawl - Al Rights Reserved
No comments:
Post a Comment