Panorama

Saturday, 19 February 2011

Nia a Dylan, Meifod 18-2-2011

Diolch i Nia a Dylan am ddiwrnod arbennig ym Meifod ddoe.  Digon o fwyd, digon o ddiod a digon o hwyl!

Pob hwyl i chi'ch dau yng Nghaeredin ac i'r dyfodol.

Dyma gasgliad bychan o'r lluniau mwy anffurfiol, gan gyfleu peth o hwyl y dydd.
































































































© Geraint Thomas 2011. Cedwir pob hawl.

Thursday, 10 February 2011

Mwynder Mawndir y Migneint

Dydd Mawrth, daeth hindda wedi'r storm, a chyfle i dreulio diwrnod yn y mynyddoedd yn chwilio am lynnoedd anghofedig.  Y tro yma ardal Pont yr Afon Gam, Cwm Cynfal, Cwm Teigl a Chwm Prysor ar y Migneint, gan ymeld ac 8 llyn yn ystod y dydd (gan gychwyn yn Hafod y Llyn ger Maentwrog).

Roedd yr awyr braidd yn rhy las i mi, ond mai'n braf cael amrywiaeth o dirluniau weithioau.  Dyma rai o'r lluniau.
Hafod y Llyn, Maentwrog

 
Coed wrth Hafod y Llyn, Maentwrog

Llyn Dubach y Bont, Pont yr Afon Gam

Llyn Morwynion - fy hoff lun i o'r dydd!

Llyn Morwynion

Llyn y Drum

Llyn y Drum

Ffrwd yn arwain oLynnau'r Gamallt

Llyn Bryn Du, Y Clochdy yn y cefndir

Llyn y Frithgraig yn edrych i'r gogledd am yr Wyddfa, Glyderau, Carneddau a Phen Llithrig y Wrach


Hiraethlyn

Ffrwd yn arwain i Hiraethlyn

Hiraethlyn

Thursday, 3 February 2011

Plant bach a bybls.

Dyma rai o'r plant sydd wedi bod ddigon dewr i fentro trwy oerfel diwedd Ionawr i gael tynnu lluniau'n y stiwdio.  Some of the brave little souls who've braved the elements to visit the studio in the past couple of weeks.














Diolch i bawb am fod yn blant mor dda!

Friday, 28 January 2011

Coedwigoedd Eryri

Wrth gario 'mlaen i dynnu lluniau llynnoedd Eryri, thema wythnos yma oedd Coedwigoedd.  Coedwig Beddgelert oedd gynta', yn uchel yng nghoedwig Beddgelert mae Llyn Llywelyn - llyn poblogaidd, ac sydd werth ymweliad ar b'nawn Sul.  Roedd darnau o'r goedwig tu ol i'r llyn yn goleuo, ac roedd cymylau'r bore'n goleuo'n binc ac oren.  Gyda barrug yn dew ar y cerrig yn y blaendir - roedd cyfle am lun.

Llyn Llywelyn

 Nesa' Coedwig Gwydir amdani!  Mae llond coedwig Gwydir  o lynnoedd ac mae'r goedwig yn amgylchynnu pentref Betws y Coed.  Er i mi dynnu lluniau Llyn Bodgynydd a Ty'n Mynydd llynedd, roedd pum llyn arall i'w dynnu - Llyn Bychan; Llyn Goddionduon; Llyn Sarnau; Llyn Pencraig a Llyn Elsi.

Llyn Bychan oedd gyntaf - ac o lyn bychan di-sylw, roedd patrymau'r rhew tennau ar wyneb y llyn yn cynnig lluniau anarferol.  Mae cael amrywiaeth eang o luniau'r llynnoedd yn profi'n sialens, ac mae ceisio meddwl yn wreiddiol am bob llyn yn mynd yn anoddach bob tro, ond roedd hwn yn gyfle annisgwyl.


Caeau Bach y Rhew - Llyn Bychan 1


Caeau Bach y Rhew - Llyn Bychan 2


Llyn Goddionduon oedd nesa'.  Llyn ychydig yn fwy, ond roedd y cymylau'n dechrau llenwi'r awyr - ond roedd cyfle am un llun agos, ac un tirlun mwy traddodiadol.


Hesg Siapaneaidd Llyn Goddionduon


Mae'r tywydd ar droi - Llyn Goddionduon


Nesa - ymweliad a Llyn Sarnau, a Llyn Pencaig.  Er fod ychydig mwy o ddwr yn Llyn Sarnau y tro yma nag oedd yno y tro diwethaf, doedd yna fawr o ddwr, felly ymlaen i Lyn Pencraig.  Dyma heb os nac oni bai lyn mwyaf siomedig Eryri!  Does fawr ddim dwr yno erbyn hyn, dim ond cors.  Mae'r ddau lun yn gorwedd yng nghanol ardal o gloddio am blwm a thun, ac mae'r creigiau o amgylch y llynnoedd yn frith o fwyngloddiau, ac mae'n debyg fod symudiadau yn y creigiau yn y blynyddoedd diweddar yn golygu fod tyllau man wedi agor yng ngwely'r llynnoedd, ac fod y dwr wedi diflannu i lawr i'r graig!  Fodd bynnag rhaid oedd ceisio tynnu lluniau.

Siom Llyn Pencraig!

Llyn Elsi Nesa, a doedd dim golwg codi ar y cymylau - ond cyfle am siot eithaf dramatig.  Mae gen i nith fach o'r enw Elsi, a rhaid oedd tynnu llun y llyn oedd wedi ei enwi er ei hol hi!

Llyn Elsi

Thursday, 20 January 2011

Y Rhiniogydd 4

Dydd Mawrth, daeth cyfle unwaith eto i gario 'mlaen a'r gwaith o dynnu lluniau'r Rhiniogydd.  Cwm Bychan oedd y man cychwyn, unwaith eto, gan ddilyn llwybr i fyny i gyfeiriad Bwlch Gwilym i'r Gogledd Ddwyrain, gan ddilyn wal ar y grib i Twrglas, gan aros wrth llyn Twrglas i dynnu llun.  Drws nesa' i Llyn Twrglas mae Llyn Pryfed, ac roedd y niwl mynydd yn bygwth mygu'r tirlun, gan foddi pob gobaith o gael casglad go-lew o lunia'.

Roedd y llyn nesa' - Llyn Morwynion yn fwy o daith, ac roedd teithio ar draws gwlad heb lwybr call ar draws tirlun carregog a chlogwynog dros ben yn anodd, gyda hafnau dwfn a chlogwyni serth yn gwneud cerdded yn anodd, ond wedi ffeindio'r wal fynydd a oedd (yn ol y map) yn mynd i'm arwain tuag at y Llyn, daeth y dwr i'r golwg yn y diwedd, a chyn gosod y camera, rhaid oedd cael tamaid i'w fwyta.

Llyn Du oedd nesa', dyma'r ail lyn o'r un enw ar y Rhiniogydd, a tydi'r llall ond dwy neu dair milltir o hwn.  Mae'r Llyn Du yma'n eitha' agos at gopa'r Rhiniog Fawr, mewn cwm crog rhewlifol. Dyma lyn ucha'r daith am heddiw, ac roedd taith serth, ond i lawr, nesa' i Gloywlyn.  Roedd haul hwyr y nos bellach yn boddi'r tirlun, ac roedd mwynder y tir yn amlwg yma wrth i greigiau geirwon a grug doddi'n gors a brwyn.  Tirlun gwell i'r pennau gliniau!

Lawr i Gloywlyn yng ngolau ola'r dydd yn ol i Gwmbychan, gan aros i dynnu llun dwy goeden yng ngwreichion gola ola'r dydd.

Tuesday - chance to carry on with the landscape photography work in the Rhiniogydd.  Again, Cwm Bychan was base, and the path North-Eastwards up the col towards Bwlch Gwilym was the main climb initially towards Llyn Twrglas and Llyn Pryfed.  Although the mountain fog threatened to ruin another day's shooting, the patchy nature of the wind-blown clouds occasionally enveloping the crags created the variety of conditions ideal for lanscape photography.

Then followed a wild trek along a rough, rocky pathless heather wilderness Southwards, navigating with contour lines towards Llyn Morwynion.  After navigating a few deep crevaces, and finally locating the ancient mountain wall that would lead me to the lake, I made it!  Before setting the camera up for another couple of shots - lunch.

It was Llyn Du next, with a decent path taking me towards the summit of Rhiniog Fawr.  It's namesake is only around 3 miles away to the north.  The highest point on the journey today,  the cold wind and fleeting clouds creating a great atmosphere.  Fom then on - downhill at last.  Gloywlyn is arond 200m down a cliff from Llyn Du, and the rough terrain gives way to a gentler boggier landscape, which is greatly welcomed by sore knee joints.  The yellowed January grass is a welcomed sight, and the warm late afternoon sun flatters all the nooks and crannies of the landscape.  The trek downhill towards Cwm Bychan takes me near, but not directly down the famous Roman Steps (which are not actually Roman - but medeival), and to the car park.  Stopping along the way to capture a silhouette of a couple of trees by the lake - home James.

Yn yr hafn daeth y wlad i gyd i'r golwg - Llyn Twrglas

Llyn Pryfed

Mae'r dwr yn galw - Llyn Morwynion
Treigl araf amser - Llyn Morwynion


Llyn Du (Rhiniog Fawr)

Llyn Du (Rhiniog Fawr)

Gloywlyn

Gola cynnes Ionawr - Gloywlyn
Gwreichion ola'r dydd - Cwmbychan