Panorama

Wednesday, 12 January 2011

Lynnoedd y Rhinogydd Take 2 - The Lakes of the Rhinogydd Take 2

Fore Sul, gwelais y cyfle i ad-ennill peth o'r amser a gollwyd yn y niwl ddydd Mawrth diwethaf, gan geisio ail ymweld a'r llynnoedd yng Ngogledd y Rhinogydd yn ardal Moel Ysgyfarnog a Clip.  Y tro yma parciais ychydig uwchlaw pentre Eisingrug, sydd ychydig yn uwch na Chwm Bychan, ond ymhellach o'r llynnoedd - roedd cerdded ychydig ymhellach yn well na mwy o ddringo! 

Llwyddwyd i gyrraedd Llyn Caerwych mewn dim o dro, gan grwydro dros y gors i Lyn Eiddew Bach, ac yna drws nesa' i Lyn Eiddew Mawr.  Tra roedd y tywydd yn dal yn dda, a'r golau'n ddigon isel yn yr awyr, dringais i fyny bron i gopa Moel Ysgyfarnog i Lyn y Dywarchen (mae tri llyn o'r enw yma yn Eryri).  Pwll bychan bas iawn ydi hwn, a bron ei fod yn debycech i gors wlyb iawn na llyn!

Ychydig yn uwch i fyny tua Bwlch Gwilim mae dau lyn bychan arall - Llyn Du a Llyn Corn Ystwc.  Mae hen lwybr trol anhygoel yn arwain i fyny i Lyn Du a naddwyd i wyneb y graig yn oes Fictoria i gloddio am Fanganese yn uchel yn y Rhiniogydd - mae'r llwybr yma'n anhygoel, ac mae'r golygfeydd yn ymestyn dros Fae Ceredigion am Fynydd Rhiw ym Mhenrhyn Llyn, a draw tua'r Wyddfa a'i chriw. 

Mae'r tirlun ger Llyn Corn Ystwc ei hun yn werth ei weld.  Er mai bychan ydi'r llyn ei hun, mae'r tirlun rhewlifol yn anhygoel.  Rhywsut ne'i gilydd tydi llystyfiant heb gael cyfle i sefydlu ei hun yno, ac mae'r cwbwl yn graig noeth, grafiedig gyda chreigiau unig yn gorwedd yno ers ddiwedd yr oes ia ola'.  Bron y gallai rhywyn dyngu for y rhewlif ond wedi cilio o'r ardal yn y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf!

Dyna gofnodi chwe llyn arall yn Eryri ar gyfer y prosiect Llynnoedd Eryri - mae dipyn mwy i'w gwneud, fodd bynnag!

Hen gorlan trochi defaid ar lan Llyn Caerwych


Llyn Carewych


Llyn Eiddew Bach


Llyn Eiddew Mawr, ac aber y Ddwyryd


Llyn y Dywarchen a Moel Ysgyfarnog


Llyn Du
(Sylwer fod y llynnoedd yma'n dal i ddangos haen drwchus o rew)

Llyn Corn Ystwc

Friday, 7 January 2011

Priodas Ffion ac Alwyn 30-12-10 Ffion and Alwyn's Wedding

I 'sgubo twrci'r 'Dolig o'r ffordd braf oedd cael y fraint o dynnu lluniau priodas Ffion ac Alwyn ym Mron Eifion, Cricieth.  Mae tynnu lluniau cwpwl mor hwyliog a di-drafferth a'r ddau yma bob tro'n bleser.  Dyma ddetholiad o rai o'r lluniau mwy anffurfiol i roi blas o hwyl y dydd.

To blow away the turkey, it was an honour to photograph Ffion and Alwyn's wedding at Bron Eifion, Cricieth.  Here's a selection of the informal shots for a taste of the fun of the day.











































Hawlfraint Geraint Thomas, Panorama, 2010, cedwir pob hawl.
Copyright Geraint Thomas, Panorama, 2010, All Rights Reserved
Co

Thursday, 6 January 2011

Diwrnod Niwlog - A Foggy Day

Dydd Mawrth roedd y mynyddoedd yn tynnu - wedi wythnos a hanner o hamddena rhaid oedd chwythu'r hen we pry cop y Nadolig, gan fentro allan i'r Mynyddoedd.  Y bwriad oedd ymweld a phump neu chwech o lynnoedd yn uchel yng Ngogledd y Rhiniogydd - ardal ddieithr iawn i mi.  Mae mynyddoedd y Rhiniogydd yn ymestyn am ardal eang yn Sir Feirionnydd o Dalsarnau i Drawsfynydd bron yr holl ffordd i lawr i Ddolgellau - gwylltir mwyaf Eryri.

Mae cymoedd Nantcol a Cwm Bychan yn leoliadau gwych i fynd i'r afael a'r Rhiniogydd o'r Gorllewin, gan fod ffyrdd bychain yn arwain yn ddwfn i mewn i'r mynyddoedd - a pharciais y fan ger Llyn Cwm Bychan heb fod ymhell o Harlech.  Y bwriad oedd dringo'r bwlch tua Trawsfynydd, gan fwrw golwg dros nifer o'r llynnoedd i'r gogledd o'r bwlch, gan gylchu'n ol i Gwm Bychan yn y pen draw.

Wedi dringo'r bwlch, a chroesi dros y grib i lawr am Lyn Eiddew Mawr, daeth diwedd ar unrhyw obeithion am luniau gwerth chweil gyda chlustog dew o niwl yn disgyn dros y llyn - doedd dim amdani ond crwydro i'r gogledd, gan geisio canfod Llyn Eiddew Bach, gan obeithio fod y tywydd am wella.  Doedd dim gwella am fod, a chan geisio arweiniad y map, ddilyn yr ychydig nodweddion yn y tir i gyfeiriad Llyn y Fedw, ac yna'n ol i lawr i Gwm Bychan.  Wedi peth amser, daeth dyfroedd y llyn i'r golwg drwy'r niwl, gan fy sichrhau fod fy nghoesau blinedig heb fod ymhell o'r fan erbyn hyn, ond wedi astudio'r map am blwc, sylweddolais fod hwn yn lyn hollol wahanol i Lyn y Fedw - roeddwn yn sefyll ar lannau Llyn Caerwych, rai milltiroedd o'r lle 'ron i'n meddwl yr oeddwn i.  Roedd y fan wedi ei pharcio filltiroedd i ffwrdd, ac roedd y golau'n dechrau pylu.  Dechreuodd panig gymeryd drosodd, roeddwn yn meddwl am blwc y byddwn yn gorfod ffonio am dacsi mawr melyn Prins William!  Doedd dim amdani ond pydru 'nol, gan ddilyn waliau mynydd a oedd wedi eu marcio ar y map.  Ymhen hir a hwyr daeth Llyn Eiddew Mawr yn ol i'r golwg, ac roedd hi'n bosib' dilyn fy llwybr yn ol dros y bwlch i Gwm Bychan.  Roedd gewynnau'r coesau'n sgrechian erbyn hyn, a holl dwrci'r 'Dolig yn bwysau.  Gyda dim ond egin o olau ar ol ar ben y bwlch uwchben Cwm Bychan, daeth adlewyrchiad o'r llyn yng ngolau hwyd y dydd i'r golwg, a chyda gofal roedd y daith i lawr i lannau'r llyn yn bosib.  Doedd cynhesrwydd y fan erioed wedi bod mor groesawus, er fod cerdyn cof y camera mor wag!


Llyn Eidddew Mawr


Llyn Eiddew Mawr