Llyn Llywelyn
Nesa' Coedwig Gwydir amdani! Mae llond coedwig Gwydir o lynnoedd ac mae'r goedwig yn amgylchynnu pentref Betws y Coed. Er i mi dynnu lluniau Llyn Bodgynydd a Ty'n Mynydd llynedd, roedd pum llyn arall i'w dynnu - Llyn Bychan; Llyn Goddionduon; Llyn Sarnau; Llyn Pencraig a Llyn Elsi.
Llyn Bychan oedd gyntaf - ac o lyn bychan di-sylw, roedd patrymau'r rhew tennau ar wyneb y llyn yn cynnig lluniau anarferol. Mae cael amrywiaeth eang o luniau'r llynnoedd yn profi'n sialens, ac mae ceisio meddwl yn wreiddiol am bob llyn yn mynd yn anoddach bob tro, ond roedd hwn yn gyfle annisgwyl.
Caeau Bach y Rhew - Llyn Bychan 1
Caeau Bach y Rhew - Llyn Bychan 2
Llyn Goddionduon oedd nesa'. Llyn ychydig yn fwy, ond roedd y cymylau'n dechrau llenwi'r awyr - ond roedd cyfle am un llun agos, ac un tirlun mwy traddodiadol.
Hesg Siapaneaidd Llyn Goddionduon
Mae'r tywydd ar droi - Llyn Goddionduon
Nesa - ymweliad a Llyn Sarnau, a Llyn Pencaig. Er fod ychydig mwy o ddwr yn Llyn Sarnau y tro yma nag oedd yno y tro diwethaf, doedd yna fawr o ddwr, felly ymlaen i Lyn Pencraig. Dyma heb os nac oni bai lyn mwyaf siomedig Eryri! Does fawr ddim dwr yno erbyn hyn, dim ond cors. Mae'r ddau lun yn gorwedd yng nghanol ardal o gloddio am blwm a thun, ac mae'r creigiau o amgylch y llynnoedd yn frith o fwyngloddiau, ac mae'n debyg fod symudiadau yn y creigiau yn y blynyddoedd diweddar yn golygu fod tyllau man wedi agor yng ngwely'r llynnoedd, ac fod y dwr wedi diflannu i lawr i'r graig! Fodd bynnag rhaid oedd ceisio tynnu lluniau.
Siom Llyn Pencraig!
Llyn Elsi Nesa, a doedd dim golwg codi ar y cymylau - ond cyfle am siot eithaf dramatig. Mae gen i nith fach o'r enw Elsi, a rhaid oedd tynnu llun y llyn oedd wedi ei enwi er ei hol hi!
Llyn Elsi